
Pa mor aml ydych chi’n cael eich hun yn gyffyrddus ar y soffa (fel y teuluoedd ar Gogglebox) a siarad am sut rydych yn cynllunio a chynilo ar gyfer eich ymddeoliad gyda’ch teulu, partner neu ffrindiau?
I lawer o bobl yr ateb tebygol i’r cwestiwn yw ddim yn aml, os o gwbl.
Ond os byddwch yn rhoi cynnig arni, efallai y bydd gennych lawer i’w ddweud – yn union fel Jenny a Lee, y Malones, y Siddiquis, ac Ellie ac Izzi:
Efallai cewch wybod am y camau maent wedi’u cymryd yn barod ac efallai y byddant hwy yn dysgu rhywbeth gwerthfawr gennych chi hefyd.
Yn y pen draw mae’n gyfle i chi siarad am rhywbeth cyffrous iawn – eich dyfodol – a’r pethau y gallwch eu gwneud yn awr i gael yr ymddeoliad rydych yn dymuno ei gael. Gallai hyn olygu treulio amser gyda’ch ffrindiau a theulu, bwyta allan neu gwneud hobi rydych yn ei garu.
Felly cewch wared o dylwn, byddwn, gallwn o’ch geirfa a dewch i wybod eich pensiwn gweithle.
Dewch i wybod eich pensiwn gweithle
Herio’r myth – eich cwestiynau pensiwn wedi’u hateb