Faint o arian fydd yn rhaid i’ch cyflogwr dalu i mewn i’ch pensiwn gweithle?

Byddwch yn cael eich ymrestru’n awtomatig ar gyfer pensiwn gweithle gan eich cyflogwr rhywbryd rhwng nawr a mis Chwefror 2018, os

  • Nad ydych chi eisoes mewn cynllun pensiwn gweithle;
  • Rydych rhwng 22 oed ac oedran Pensiwn y Wladwriaeth; ac
  • Rydych yn ennill mwy na £10,000 y flwyddyn (£833 y mis, £192 yr wythnos).

Gallwch ddewis eithrio allan os ydych yn dymuno, ond byddwch yn colli allan ar gyfraniad gan eich cyflogwr. Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i gael gwybod yr isafswm y bydd eich cyflogwr yn cyfrannu at eich pensiwn gweithle ar ôl i chi gael eich cofrestru’n awtomatig.

Eich Cyflog

Dewiswch isod os ydych eisiau rhoi eich cyflog blynyddol, misol, bob 4 wythnos neu bob wythnos cyn treth.

Eich cyflog cyn treth:
£
bob

* Dewiswch gyfnod ddilys o'r gwymplen.

* Rhowch swm dilys. Dylech ond cynnwys rhifau.

Ffigurau yn gywir ar gyfer y flwyddyn ariannol hon; efallai bydd blynyddoedd cynharach yn wahanol.

Peidiwch ag anghofio, os ydych yn talu treth incwm, byddwch hefyd yn cael arian gan y llywodraeth ar ffurf rhyddhad treth. Mae rhyddhad treth yn golygu bydd rhywfaint o’ch arian a fyddai wedi mynd i’r llywodraeth fel treth nawr yn mynd i mewn i’ch cronfa bensiwn yn lle hynny.

Am y gyfrifiannell hwn (gan gynnwys sut mae’n gweithio).

Mae llawer o ddryswch o gwmpas pensiynau a chynilo. Gall y mythau pensiwn hyn wneud pobl deimlo’n ddryslyd ynglŷn â beth maent angen ei wneud i ariannu eu hymddeoliad. Rydym wedi esbonio rhai mythau pensiwn ar ein tudalen ‘myth buster’