Cyflogwyr

O ganlyniad i Ymrestru Awtomatig, mae miliynau o bobl nawr gyda phensiwn gweithle. Darganfyddwch sut mae hyn yn effeithio eich busnes.

Dal yn ansicr os ydw i’n gyflogwr

Mae’r ffactorau canlynol yn ddangosyddion eich bod yn gyflogwr ac efallai y gall dyletswyddau fod yn gymwys:

(Os yw rhywun yn hunangyflogedig neu maent yn cael eu llogi a thalu amdanynt trwy asiantaeth, yna nid ydych yn eu cyflogwr ac nid yw dyletswyddau yn berthnasol i chi.)

Peidiwch ag anwybyddu Pensiwn Gweithle

Ewch i wefan Y Rheoleiddiwr Pensiynau

Dyma ychydig o enghreifftiau at ddibenion arddangos yn unig

Rwy’n cyflogi cynorthwyydd gofal personol

Mae cynorthwyydd gofal personol yn rhywun sy’n eich darparu gyda gofal a chefnogaeth bersonol yn eich cartref, fel arfer oherwydd bod eich amgylchiadau’n golygu eich bod yn llai abl i gyflawni’r tasgau hyn eich hun. Efallai y byddant yn eich helpu gyda glanhau, coginio, siopa neu ofal personol fel ymolchi a gwisgo. Gall cynorthwyydd gofal personol unai gael eu talu neu fod yn ddi-dal. Os oes gennych gynorthwyydd gofal personol, nid chi fydd eu cyflogwr os nad ydynt yn cael eu talu am y gwaith. Yn aml bydd y math hwn o ofalwr yn aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog.

Efallai eich bod yn eu cyflogwr os ydych yn eu talu yn uniongyrchol am eu gwaith, hyd yn oed os ydych wedi bod yn cael arian gan eich awdurdod lleol (taliadau uniongyrchol) i’w talu. Os ydynt yn cael eu llogi a’u talu trwy asiantaeth, yna yr asiantaeth fydd y cyflogwr ac ni fydd unrhyw ddyletswyddau yn berthnasol i chi.

Peidiwch ag anwybyddu Pensiwn Gweithle

Ewch i wefan Y Rheoleiddiwr Pensiynau

Help yn y cartref:

Mae gweithiwr domestig yn rhywun a gyflogir i weithio yn eich cartref ac sy’n cyflawni tasgau yn y cartref fel glanhau, coginio, a golchi dillad neu nani sy’n helpu gyda gofal plant. Os yw’r person ond yn gwneud gwaith â thâl i chi , maent yn debygol o fod yn eich gweithiwr. Fodd bynnag, gallent ddal fod eich gweithiwr hyd yn oed os ydynt yn gweithio i bobl eraill yn ogystal â chi. Bydd gweithwyr domestig eraill yn hunangyflogedig ac yn gyfrifol am eu treth ac yswiriant gwladol eu hunain, er enghraifft mae gan arddwr neu dasgmon sy’n rhedeg eu busnes eu hunain gleientiaid eraill fel arfer.

Peidiwch ag anwybyddu Pensiwn Gweithle

Ewch i wefan Y Rheoleiddiwr Pensiynau